Ein Her i Lywodraeth Cymru a’r Cyngor Celfyddydau
- helo606
- 3 days ago
- 4 min read
gan Dr Alicia Stark, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes
Mae Tanio yn croesawu’r adroddiad goleuol newydd a gynhaliwyd yn annibynnol, wedi’i rhyddhau ddoe gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ‘Asesu Effaith Economaidd y Celfyddydau ar Iechyd a Gwasanaethau Gofal Iechyd yng Nghymru’, yn manylu’r arbedion cost i iechyd a lles mae’r celfyddydau yn cyflawni ar draws y wlad. Mae casgliadau cynhwysfawr yr adroddiad yn uwcholeuo yn union ba mor integrol yw’r celfyddydau i iechyd cyffredinol pobl, a’r effaith mae’r celfyddydau yn gallu cael ar y GIG: ‘gwerth ariannol amcangyfrifol y buddiannau iechyd a chynhyrchedd a geir trwy holl ymrwymiad celfyddydol yng Nghymru … yw £588 miliwn y flwyddyn ar y lleiaf,’ ac am bob £1 o fuddsoddiad gan y Cyngor Celfyddydau mewn i gyfundrefnau ariannu aml-flwyddyn fel Tanio, mae yna adenillion ariannol ar fuddsoddiad (ROI) o £11.08.
Mae’r ffigurau yma yn syfrdanol, ond maen nhw’n uwcholeuo’n ariannol rhywbeth rydyn ni’n ei gwybod yn barod- bod y celfyddydau yn hanfodol i’r ford o fyw yng Nghymru, ac yn golynnol i helpu pool byw bywydau mwy iach a boddhaus. Mae’r celfyddydau yn modd penodol a hanfodol o dorri costau gofal iechyd i’r cyhoedd, ac yn haeddu buddsoddiad a phlatfform ar bob lefel llywodraethol ac o fewn y GIG.
At Tanio, mae gan bob prosiect celfyddydol, gweithgaredd a gweithdy rydym yn cynnig budd iechyd a lles, sy’n helpu ein cymunedau lleol i wella’u hiechyd meddyliol, cynyddu’u teimlad o ymberthyn, adeiladu’u cymunedau, a lleihau’u ynysigrwydd ac unigedd.
Mae un o’m rhaglenni blaenllaw ac arobryn, ‘Breathing Space Ignite’, yn ei 5+ mlynedd o ddosbarthiad, wedi profi cyflawniad o’r holl bethau yma. Mae ‘Breathing Space Ignite’ yn gweithio oherwydd mae e’n ddibynadwy (gyda sesiynau yn cymryd lle mewn 6 lleoliad mwy na 40 wythnos y flwyddyn), arweinir gan hwyluswyr artistiaid profiadol (gyda dealltwriaeth o gelfyddydau cymunedol, creadigrwydd person-ganolog, a hyfforddiant gwarchodol), ac mae e’n addasu ac ymateb yn ddynamig i anghenion y bobl yn yr ystafell (gyda chynorthwyydd lles hyfforddedig mewn bob sesiwn, sy’n cefnogi iechyd meddwl pob cyfranogwr, sy’n gallu cynnig help ychwanegol i rywun sy’n mynd trwy amser caled). Yn wir, enillodd ‘Breathing Space Ignite’ Gwasanaeth Lles Gorau 2025 at Gwobrau Iechyd Meddwl a Lles Cymru, am ei darpariaeth ardderchog a canlyniadau ymgodol.
Blwyddyn diwethaf, defnyddiodd Tanio modelau tebyg i’r rhai yn yr adroddiad newydd i gyfrifo gwerth ariannol amcangyfrifol ‘Breathing Space Ignite’. Fel yr ymchwilwyr ag ysgrifennwyd yr adroddiad, gwnaethom cadw ein hamcangyfrifai yn geidwadol, i sicrhau nad oeddem yn goramcangyfrif neu’n enchwythu effaith ‘Breathing Space Ignite’.
Roedd yr hyn â darganfyddom yn rhyfeddol.
Mae ‘Breathing Space Ignite’ yn arbed y GIG ar y lleiaf £89,670 y flwyddyn, gan gefnogi cyfranogwyr er mwyn iddynt ymofyn am llai o apwyntiadau medbyg teulu, cael llai o ymweliadau i ddamwain ac argyfwng, a defnyddio llai o meddygyniaeth presgriptiwn. Mae’r cyfrifiad yma wedi’i bolsteri gan ein gwerthusiad diweddar o ‘Breathing Space Ignite’ gan ddefnyddio model ‘Most Significant Change’; dangosir y gwerthusiad yna effaith enfawr y gwasanaeth ar iechyd meddwl, gan gynnwys tri cyfranogwr â dwedodd bod mynychu ‘Breathing Space Ignite’ wedi’u atal nhw rhag cymryd eu bywydau.
Yn ychwanegol, mae “Breathing Space Ignite’ yn arbed gwasanaethau cymdeithasol £118,639 ar y lleiaf pob blwyddyn. Ac nad yw’r ffigur yma yn cynnwys yr oriau aneirif sy’n cael eu harbed gan weithwyr cymdeithasol, doctoriaid a nyrsiau GIG, a staff cefnogol sy’n gweithio rhwng gwasanaethau cymdeithasol i helpu pobl.
Ar y cyfan, dyna arbedion o £208,309 ar y lleiaf i’r sector cyhoeddus o ‘Breathing Space Ignite’ yn unig. Mae data ROI’r adroddiad newydd yn awgrymu ein bod yn sicr wedi tanbrisio’r cyfanswm yma; Mae’r celfyddydau ehangach mewn gweithgareddau iechyd a lles a’r gweithdai mae Tanio yn darparu yn debygol yn arbed y sector cyhoeddus miliynau o bunnoedd.
Mae Tanio mor ddiolchgar am fuddsoddiad arianwyr fel Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Bwrdeistref Siriol Pen-y-bont ar Ogwr, mae eu buddsoddiad mewn i ‘Breathing Space Ignite’ wedi ein galluogi i barhau cefnogi cannoedd o bobl pob blwyddyn.
Er hynny, bydd y cronfa cyfoes ar gyfer ‘Breathing Space Ignite’ yn dod i’r diwedd cyn bo’ hir, ac mae Tanio yn brwydro i dod o hyd ffyrdd newydd o gynnal y wasanaeth yn ariannol. Rydym yn parhau i wynebu’r rhwystr yma gyda ‘Breathing Space Ignite’ wrth i’r blynyddoedd mynd heibio, wrth i un llif ariannu gorffen, rhaid dod o hyd I rhai newydd. Mae cynnig rhaglen hir dymor iechyd mewn celfyddydau yn daith caled a heriol, hyd yn oed am un mor parhaus a tystiolaethol â ‘Breathing Space Ignite’; mae buddsoddwyr yn aml ond yn rhoi arian i’r hyn sy’n ‘newydd’, a nid yn ganiataol i’r hyn sydd wedi’i profi i weithio.
Felly mae’r casgliadau anghredadwy yma o adroddiad ‘Asesu Effaith Economaidd y Celfyddydau ar Iechyd a Gwasanaethau Gofal Iechyd yng Nghymru’ ac ymchwil ein hunan yn rhoi i ni gobaith arbennig a balchder, gan ddangos yn union cymaint o effaith rydym yn cael ar ein cymunedau Cymraeg.
Ond, rydyn nhw hefyd yn codi cwestiynau difrifol: Sut allwn ni sicrhau buddsoddiad hirdymor ar gyfer darpariaeth iechyd mewn celfyddydau sydd yn barod yn gweithio? Sut allwn ni sicrhau ni fydd gwasanaethau creadigol yn diflannu, pan mae pobl yn dibynnu arnyn nhw mor drwm? Sut all y meddylfryd a llifoedd ariannu Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill shifftio, i gynnwys celfyddydau mewn iechyd fel buddsoddiad gwerthfawr, gan wybod bydd e’n lleihau eu baich gwaith a chostau os yw e’n derbyn buddsoddiad priodol?
Mae Tanio yn ymroddgar i ddarganfod atebion i’r cwestiynau yma a byddwn yn parhau i adfocad tan fod darpariaeth celfyddydau mewn iechyd ar gael i bawb yng Nghymru. Rydym yn herio Llywodraeth Cymru a’r Cyngor Celfyddydau i gymryd y casgliadau yma a sicrhau bod celfyddydau mewn iechyd yn ddull hyfyw, wedi’i ariannu’n llawn i wella bywydau pobl Cymru.
Sut allwch chi helpu?
Cliciwch y botwm ‘cyfrannu’ uwchben i roi i Tanio, i helpu ni i gynnal ‘Breathing Space Ignite’ a’n rhaglenni eraill sy’n cefnogi iechyd meddwl a lles pobl ardaloedd De Cymru sydd wedi’u hynysu’n ddaearyddol. Neu arwyddwch i fyny i chwarae loteri cymunedol Pen-y-bont, a dewiswch Tanio fel eich elusen dewisol. Er gwaethaf lle rydych yn byw yn y DU, gallwch chi chwarae a cael y cyfle i ennill gwobrau wrth i chi gefnogi ein gwaith. Mae pob cyfraniad a pob tocyn loteri yn cael effaith mawr ar Tanio!







Comments