top of page

Ysgol Gynradd y Cymmer: Prosiect Celfyddydau ac Addysg Awyr Agored - Cyfnod 2

  • 6 days ago
  • 3 min read

Dros y ddwy flynedd diwethaf, mae Tanio wedi cael y llawenydd o gydweithio gydag Ysgol Gynradd y Cymmer ym Mhorth ar ddau brosiect celfyddydau ac addysg awyr agored. Diolch i ariannu gan Codi Grŵp (Linc Cymru a Pobl Grŵp yn flaenorol), mae tiroedd yr ysgol wedi cael eu trawsffurfio mewn i leoedd creadigol, wedi’u hysbrydoli gan natur sy’n gwreichioni dychymyg, adeiladu hyder a meithrin chwilfrydedd. 

  

Partneriaeth Creadigol sy’n Tyfu

Daeth ein prosiect cyntaf ag artist gweledol Louise Shenstone ac artist helyg Nancy Evans i mewn i’r ysgol i gyflwyno disgyblion Blynyddoedd 1 a 2 i gerflunio helyg a chreu murluniau. Gyda’i gilydd, helpon nhw’r plant i drawsffurfio’u lleoedd awyr agored mewn i amgylchedd lliwgar, wedi’i ysbrydoli gan natur, sy’n llawn dychymyg a stori. 

 

Yn adeiladu ar y llwyddiant yna, gwnaeth Cyfnod 2 ehangu ar y daith greadigol ymhellach, gan archwilio sut all symudiad, cerddoriaeth, a chelfyddydau gweledol cymysgu’n ddi-dor mewn i addysg a chwarae.


Gwnaeth Rheolwyr Rhaglen Tanio Sharly Lewis a Tom Stupple, ochr yn ochr ag artist gweledol Beth Dowsett, curadu raglen gyfoethog o weithdai wedi’u dylunio i ysbrydoli creadigrwydd a chefnogi lles. Roedd eu nod yn syml: i helpu plant cael profiad o’r celfyddydau nid fel pynciau ar wahân, ond fel ffyrdd llawen, cysylltiedig o ddeall y byd.


Dywed Sharly, “Roedd yr egni a chreadigrwydd daeth â’r plant i bob sesiwn yn anhygoel. Mae eu gweld nhw’n arbrofi, cydweithio a mynegi’u hunain mor rhydd wir wedi bod yn uchafbwynt. Mae dod â’r lefel yma o gyfoethogiad mewn i’r ysgol wedi bod yn llawenydd, ac rwy’n gobeithio bydd e’n gwreichioni cariad gydol oes o’r celfyddydau.”


 

Cerddoriaeth, Symudiad a Natur Mewn Harmoni 

Gwnaeth Tom a Beth, cerddorion proffesiynol ac aelodau’r band 14 Wolves, cyflwyno’r plant i ystod eang o offerynnau, o djembes Affricanaidd a balafons i gitarau, windchimes a boom whackers. Trwy rythm, caniad, drama, a dawns, archwiliodd y plant i sain mewn ffyrdd chwareus a mynegiannol. 


 

Gwnaeth un disgybl ei grynhoi’n berffaith: “Roedd yr offerynnau’n gymaint o hwyl! Hoffais i’r drymiau’r mwyaf, a phan mae Tom yn chwarae’r gitar ac mae Beth yn cani, mae e’n teimlo fel cyngerdd go iawn.”


Yn y cyfamser, gwnaeth Sharly, Arweinydd Celfyddydau Coedwig, arwain disgyblion mewn creu windchimes wedi’i ysbrydoli gan natur a chelf cwcîs pren i gymryd adref, gan eu hannog i weld defnyddiau naturiol fel offer ar gyfer creadigrwydd. 


Rhannodd un plentyn gyda balchder, “Carais i greu fy windchime. Dydw i methu aros i’w cymryd adref i’w hongian yn fy ystafell gwely!”

  

Dylunio Lle Hudol Awyr Agored ar y Cyd

Trwy gydol y gweithdai, casglodd yr hwyluswyr syniadau’r plant am sut hoffon nhw’r lle awyr agored i edrych, teimlo, a chael ei ddefnyddio. Mae eu lleisiau, gyda’r gelf bren brydferth creuon nhw gyda Beth, wedi siapio’n uniongyrchol dyluniad gosodiad coeden gerddorol newydd sbon. Mae’r adeiladwaith synhwyraidd, rhyngweithiol yma, wedi’i datblygu mewn partneriaeth â chwmni drama natur gerddorol broffesiynol, ‘Made From Scratch’ @mfsplay, yn nodwedd wir wedi’i dylunio ar y cyd. Bydd e’n cynnig blynyddoedd o archwiliad creadigol, cefnogi addysg, lles, a chwarae dychmygol i ddisgyblion y dyfodol yn ogystal â nhw a wnaeth ei freuddwydio i fyw. Mae brwdfrydedd y plant wedi bod at galon pob cam.


Fel rhoddodd un grŵp yn syml: “Diolch! Plîs dewch nôl eto, gwnaethom ni ei charu hi!”

  

Edrych Ymlaen

Mae tanio yn falch i barhau’r faith creadigol yma gydag Ysgol Gynradd y Cymmer, Codi Grŵp a Llewelyn Jones o ‘Made From Scratch’. Gyda’n gilydd, rydym yn siapio lleoedd awyr agored lle mae plant yn teimlo wedi’u grymuso, yn fynegiannol ac yn ddwfn cysylltiedig i natur. Mae’r gosodiad coeden gerddorol newydd wedi’i amserlenni ar gyfer Mai/Mehefin 2026, ac rydym yn edrych ymlaen at farcio’i chyrhaeddiad gyda dathliad arbennig at yr ysgol. 


Adlewyrchodd Dirprwy Pennaeth Geraint Leach ar impact y prosiect, yn dathlu’r llawenydd, hyder, a chreadigrwydd mae e wedi dod i gymuned yr ysgol. 


Mae e’n dweud, “Mae gweithio gyda Tanio wedi bod yn brofiad ffantastig i’m disgyblion, mae ansawdd y gelf a sesiynau cerddoriaeth mae’r plant wedi cynhyrchu wedi bod yn fendigedig, ac maen nhw wedi caru’r cyfleoedd sydd wedi cael eu darparu iddynt. Bydd y cynhyrchiad terfynol ar gyfer ein hiard, wedi’i adeiladu’n broffesiynol, yn wir ased ar gyfer ein disgyblion i ddatblygu’u gwybodaeth o gerddoriaeth ac offerynnau cerddorol. Mae e wedi bod yn brofiad ysblennydd ar gyfer pawb wedi’u cynnwys.”

 
 
 

Comments


Registered charity: 1108303

t. 01656 729246
e. helo@taniocymru.com

 

what3words: parkway.simulations.moving

Website images: Chris Lloyd
Website design: @oliviamadethis

 
Tanio
Sardis Media Centre
Heol Dewi Sant,
Bettws,
Bridgend,
CF32 8SU


 
ZRW_logo_black_english-768x768.png
LW__3. LW Employer.png
ME-Logo-White-600x106.png
communitytrust_logo.png
bottom of page