top of page

Mae Company of Sirens a Tanio yn Cyhoeddi Drama Newydd “HUT 9”

  • Apr 1
  • 2 min read

Sir Pen-y-bont, Cymru, 1945.


Ar noson y 10fed o Fawrth ym 1945, mae sawl swyddog Almaeneg uchel ei ranc yn arwain dihangfa gan ddefnyddio twnnel cudd, a chiliodd 70 carcharor mewn i’r cefn gwlad o gwmpas Pen-y-bont. 


Sir Pen-y-bont, Cymru, 2035.


Mewn byd lle mae dronau’n llenwi’r awyr, mae olew wedi’i gwahardd, ac mae tai wedi’u difrodi gan newid hinsawdd yn rhannol dan ddŵr, mae grŵp o bobl yn ymddangos mewn i olau cras camp ffoaduriaid. 


Pen-y-bont, Cymru, 2026. 


Mae Company of Sirens, mewn partneriaeth â Tanio ac wedi’i chefnogi gan Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, English Theatre Berlin, Gritty Animation a Chyngor Celfyddydau Cymru yn falch i gyhoeddi cynhyrchiant drama newydd, “HUT 9”, wedi’i ysgrifennu gan ddramodydd Pen-y-bont Tim Rhys ac wedi’i gyfarwyddo gan Chris Durnall. Ceiff y ddrama’i greu trwy gweithdai cymunedol a’i ddosbarthu gan artistiaid proffesiynol at Neuadd y Dref Maesteg a Theatr Soar, Merthyr Tidfil yn Nhachwedd 2026.


Mae “HUT 9” yn ddrama gymell newydd sy’n archwilio hanes gwersyll carcharorion rhyfel gerllaw Pen-y-bont (Island Farm). Mae’r ddrama’n cyflwyno digwyddiadau o 1945, gan gynnwys y ddihangfa enwog, ac yn eu cydblethu gydag adroddiad ffuglennol wedi’i gosod yn y dyfodol agos. Mae’r ddwy ffrâm amser wedi’u cysylltu gan y twnnel ei hunan, yn archwilio eithafiaeth asgell dde ar hyd y ddau gyfnod. Mae’r ddrama’n cynnwys straeon air am air o bobl leol am y gwersyll a’i hanes, gan uwcholeuo treftadaeth Island Farm tra mynd i’r afael â chodiad mewn gweithred asgell dde yn y gorffennol a phresennol. Caiff y ddrama’i berfformio yn Saesneg, gydag elfennau o Gymraeg ac Iaith Arwyddion Prydain (IAP) wedi’u cynnwys. Bydd y cynhyrchiant yn arddangos pedwar actor proffesiynol, ysgrifennydd, a tîm hollol broffesiynol. Bydd y brosiect hefyd yn cynnwys perfformiad wedi’i arwyddo at bob lleoliad a fideo rhagarweiniol arwyddo IAP gydag isdeitlau i fynd â deunydd marchnata a datganiadau i’r wasg. 



Dywed Chris Durnall, Cyfarwyddwr Company of Sirens, “Rydym yn gyffrous i ddod â’r darn pwysig o hanes yma yn fyw trwy dalentau creadigol ein cymuned. Nid ond yw ‘HUT 9’ yn uwcholeuo treftadaeth yr ardal ond hefyd yn mynd i’r afael â syniadau critigol o ryddid, eithafiaeth, a gwrthdaro, yn y gorffennol a phresennol.”


Mae Lisa Davies, Prif Weithredwr, Tanio, yn ychwanegu, “Rydym yn gyffrous i gynhyrchu Hut 9 ar y cyd â Company of Sirens, gyda ffocws penodol ar fwyhau lleisiau cymunedol yn y ddrama, a chynnig cyfleoedd cymunedol i gyfrannu at a chreu elfennau o’r darn.”


Am Company of Sirens: Mae Company of Sirens yn gwmni theatr gyda record amlwg o adeiladu partneriaethau hirdymor gyda chymunedau, cyfundrefnau celfyddydol, awdurdodau lleol, a chyfundrefnau amgylcheddol. Mae’r cwmni’n ymroddedig i ddatblygu gwaith ar hyd holl ardaloedd Cymru. 


Am Tanio: Mae Tanio yn elusen sy’n ymroddgar i ddosbarthu profiadau a gweithgareddau celfyddydol ansawdd uchel i bobl De Cymru, yn enwedig nhw mewn lleoedd dan anfantais yn Sir Pen-y-bont. Mae ei chysylltiadau llawr gwlad a phrofiad mewn celfyddydau cymunedol yn ei gwneud nhw’n bartner gwerthfawr yn y prosiect yma.


Dyddiadau:

18fed-20fed Tachwedd 2026 - Neuadd y Dref Maesteg 

21ain Tachwedd 2026 - Theatr Soar, Merthyr Tidfil


Tocynnau ar werth yn fuan.


Mi fydd perfformiad ysgolion at Neuadd y Dref Maesteg, os ydych â ddiddordeb mewn dod â grŵp o bobl ifanc, ebostiwch helo@taniocymru.com os gwelwch yn dda.


Cysylltiadau Cyfryngau:

Chris Durnall cadurnall@gmail.com

Alison Gerrish AlisonGerrish@gmail.com 

 
 
 

Comments


Registered charity: 1108303

t. 01656 729246
e. helo@taniocymru.com

 

what3words: parkway.simulations.moving

Website images: Chris Lloyd
Website design: @oliviamadethis

 
Tanio
Sardis Media Centre
Heol Dewi Sant,
Bettws,
Bridgend,
CF32 8SU


 
ZRW_logo_black_english-768x768.png
LW__3. LW Employer.png
ME-Logo-White-600x106.png
communitytrust_logo.png
bottom of page