Diweddariad - Update: Galwad Artist | Artist Call Out
- Jun 24
- 2 min read
Updated: 7 days ago
Oherwydd y swm uchel o ymatebion, rydym wedi gwneud y penderfyniad i gau’r cais yma’n gynnar. Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.
Rydyn ni angen eich help! We need your help!
Mae Tanio yn edrych am Ddylunydd Creadigol/Artist-Creawdwr i gynllunio, creu a
sefydlu cerflun cerddorol ar gyfer gosodiad awyr agored ysgol gynradd.
Yn dilyn cyfres o weithdai creadigol gyda disgyblion Blwyddyn 3 a Blwyddyn 4 yn
archwilio cerddoriaeth, offerynnau wedi’u hysbrydoli gan gelfyddydau coedwig, a
dylunio wedi’i selio ar natur, datblygwyd y plant y syniad “Coeden Cerddoriaeth”.
Tanio is seeking a Creative Designer / Artist-Maker to design, create, and install a
musical sculpture for an outdoor primary school setting.
Following a series of creative workshops with Year 3 and Year 4 pupils exploring
music, forestartsinspired instruments, and naturebased design, the children
collaboratively developed the concept of a “Music Tree.”
Rydym yn edrych am ddylunydd/artist sy’n gallu:
Trawsffurfio syniadau’r plant mewn i gerflun cerddorol diogel,
gwydn/cynaliadwy, rhyngweithiol
Dylunio, adeiladu a sefydlu’r darn ar faes yr ysgol
Gweithio mewn ffrâm amser 5 wythnos fel bod y cerflun wedi cwblhau erbyn
diwedd y flwyddyn academaidd. Yn anffodus, rydym wedi cael ein gadael lawr
gan gontractwr blaenorol, gan greu ffrâm amser byr er mwyn i’r gwaith yma
cael ei chwblhau, ac rydym yn ddiolchgar am eich amser ac egni i’n helpu ni
gyrraedd y nod yma.
Sicrhau bod y darn gorffenedig yn hollol ddiogel a hygyrch i blant oedran
cynradd. Os ydych â diddordeb ac yn teimlo gallwch gynhyrchu darn diddorol, cyffrous, a
rhyngweithiol o fewn y ffrâm amser, hoffwn ni’n fawr i glywed oddi wrthoch!
Ffi: £3,000 (gan gynnwys yr holl ddylunio, deunyddiau, gwneuthuriad, a sefydliad)
Plîs cysylltwch â: sharly@taniocymru.com
Due to a high number of responses, we have made the decision to close this application early. We apologise for any inconvenience caused.
We are looking for a designer/artist who can:
Transform the children’s ideas into a safe, durable/sustainable, interactive
musical sculpture.
Design, build, and install the piece on the school site.
Work within a 5 week timeframe so the sculpture is completed before the end
of the academic year. Unfortunately, we have been let down with a previous
contractor, creating a short timeframe for this work to be completed, and we
are grateful for your time and energy to help us meet this goal.
Ensure the final piece is fully safe and accessible for primary-aged children.
If you are interested and feel you could produce an interesting, exciting, and
interactive piece within the timeframe, we would love to hear from you!
Fee: £3,000 (to include all design, materials, fabrication, and installation
Please contact: sharly@taniocymru.com




Comments