top of page

Galw Allan!

  • helo606
  • Sep 8
  • 3 min read

Mae Tanio yn ymhyfrydu yn y derbyniad diweddar o brif gronfa gan Gyngor Celfyddydau Cymru er mwyn gwneud gwelliannau i’m hadeiladau, gan gynnwys cynyddu hygyrchedd

a gwneud yr adeilad yn fwy gwyrdd. Rydym yn chwilio am Reolwr Prosiect Adeiladwaith llawrydd sy’n gallu arwain dosbarthiad y gwaith yma, sydd gyda phrofiad mewn rheoli prosiectau graddfa fawr a chontractwyr lluosol. Gan ystyried amodau’r gronfa, mae cyfnod cwblhad y prosiect cyflawn yn fyr iawn ac yn angen ei orffen yn gyflym erbyn

2026 cynnar.


Oherwydd hyn, rydym eisiau ymatebion i’n galwad mor gynted ag sy’n bosib.


Cyflwyna cynnig o ddim mwy na 1000 gair, yn manylu sut rwyt ti’n cwrdd â manylebau’r disgrifiad rôl isod, gan roi ffocws penodol ar y rhan ‘Proffil Ymgeisydd’ er mwyn dweud mwy wrthym am dy hun a dy arbenigedd a phrofiad yn arwain y fath yma o brosiect.


Cyflwyna dy gynnig erbyn 5 y.h. ar Ddydd Gwener 12eg o Fedi 2025 i


Rheolwr Prosiect Adeiladwaith Llawrydd

Math Contract: Llawrydd

Hyd: Cyfanswm o 24 diwrnod (i’w trefnu’n hyblyg ar hyd amserlen y prosiect)

Ffi: £450 y diwrnod (cyfanswm £10,800, yn cynnwys treuliau a VAT)

Lleoliad: Bettws, Penybont (presenoldeb ar y safle yn ofynnol am gyfnodau

allweddol)

Dyddiad Dechrau: Yn syth

Terfyn Amser Cwblhau: Rhaid i’r holl waith cael ei orffen erbyn 28ain o Chwefror

2026

Terfyn Amser Adrodd Terfynol: 5ed o Fawrth 2026


Trosolwg Rôl

Mae Tanio yn ymgymryd â chynllun prif welliant er mwyn mwyhau hygyrchedd,

cynaliadwyedd, ac ymarferoldeb ei hwb celfyddydau cymunedol ym Mettws. Rydym

yn chwilio am Rheolwr Prosiect Adeiladwaith Llawrydd i arwain dosbarthiad y

brosiect aml-elfen yma. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu strwythur,

arolygiaeth, ac arbenigedd ymarferol er mwyn sicrhau bod gwaith yn cael ei

dosbarthu ar amser, o fewn cyllideb, ac yn unol ag amodau y grant a safonau

rheoleiddiol.


Cyfrifoldebau Allweddol

  • Datblygu a rheoli cynllun ac amserlen dosbarthiad prosiect manwl

  • Arwain prosesau caffael a a thendr, gan gynnwys sicrhau tri pris pan yn

    ofynnol

  • Cysylltu â contractwyr a chyflenwyr er mwyn cydlynu gwaith a datrys

    problemau

  • Sicrhau cydymffurfiad ag amodau grant, gan gynnwys tracio ariannol ac

    adrodd

  •  Actio fel arweinydd y safle pan nad yw staff Tanio ar gael, gan sicrhau parhad

    ac ansawdd

  • Monitro cynnydd yn ôl cerrig milltir a rheoli risg yn rhagweithiol

  • Cynghori ar dilyniannu gwaith er mwyn uchafu effeithlondeb ac isafu

    aflonyddwch

  • Sicrhau bod yr holl waith yn cwrdd â’r safonau hygyrchedd perthnasol a

    rheolau adeiladu

  • Cynnal cyfathrebiad clir â tîm uwch Tanio a Swyddog Cyllid


Sgôp y Gwaith

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arolygu yr elfennau isod:

  • Atgyweiriadau i’r to a gosodiad paneli solar a’r system batri

  • Ail-arwynebu ac atgyweiriad y lle digwyddiadau awyr agored a maes parcio

  • Gosodiad ffenestri newydd, drysau a cyntedd

  • Creadigaeth lle storio newydd tu allan

  • Uwchraddiadau hygyrchedd i’r mynedfa a tŷ bach hygyrch


Proffil Ymgeisydd

Rydym yn croesawu ymgeisiadau gan ymgynghorwyr llawrydd profiadol, rheolwyr

prosiect, neu gweithwyr adeiladwaith proffesiynol sy’n gallu arddangos:

  • Record trac o ddosbarthu prif gwaith neu prosiectau ailwampio

  • Cynefindra gyda prosesau caffael, rheolaeth contractwyr, a cydgysylltiad safle

  • Deall safonau hygyrchedd a rheolau adeiladu

  • Profiad yn gweithio gyda cyfundrefnau cymunedol neu cleientiaid sector

    cyhoeddus

  • Cymwysterau perthnasol (e.e. CIOB, RICS, neu rheolaeth adeiladwaith) yn

    cael eu croesawu ond nad ydynt yn angenrheidiol

  • Sgiliau trefnu a chyfathrebu cryf

  • Y gallu i weithio’n annibynol ac ar y cŷd gyda tîm bach dan gwasgedd amser

  • Ymrwymiad i werth cymdeithasol, hygyrchedd, a cynaliadwyedd

    amgyrcheddol

  • Mae gwybodaeth lleol a cysylltau â contractwyr dibynadwy yn fanteisiol


Crynodeb Contract

Contract llawrydd am 24 diwrnod

Trefniadaeth hyblyg, gyda cerrig milltir allweddol i’w cwrdd â

Ffi: £450 y diwrnod (yn cynhwysol o’r holl treuliau a VAT)

Rhaid i’r holl waith wedi’i cwblhau erbyn 28ain o Chwefror 2026


Adrodd terfynol a taliadau i’w cwblhau erbyn 5ed o Fawrth 2026

 
 
 

Comments


Registered charity: 1108303

t. 01656 729246
e. helo@taniocymru.com

 

what3words: parkway.simulations.moving

Website images: Chris Lloyd
Website design: @oliviamadethis

 
Tanio
Sardis Media Centre
Heol Dewi Sant,
Bettws,
Bridgend,
CF32 8SU


 
ZRW_logo_black_english-768x768.png
LW__3. LW Employer.png
ME-Logo-White-600x106.png
communitytrust_logo.png
bottom of page