Tanio yn hwyluso ailadeiladu mosaig cymunedol sydd wedi torri
- Jan 28
- 1 min read
Ym mis Hydref, bu Tanio yn gweithio gyda myfyrwyr Ysgol Gynradd Llyswyry yng Nghasnewydd i ailddylunio mosaig cymunedol a oedd wedi torri ers blynyddoedd. Gan weithio gyda chymdeithas dai Hedyn a'r contractwr adeiladu, Hale Group, treuliodd artist o Tanio, Chris Partridge, amser gyda'r myfyrwyr i gasglu eu syniadau ar gyfer y gwaith celf yr oeddent am ei weld ger eu cartrefi.
Y canlyniad yw mosaig llachar a lliwgar sy'n dal ysbryd chwareus y plant yn y gymuned. Gallwch ddarllen mwy amdano isod, yn yr erthygl hon o'r South Wales Argus.





Comments